|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
|
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2012 |
|
|||
|
Amser: |
08:30 - 08:50 |
|
|||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Jocelyn Davies William Graham Jane Hutt Aled Roberts |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
Anna Daniel (Clerc)
|
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Eraill yn bresennol: |
|
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Sulafa Thomas, Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd Aled Elwyn Jones, y Clerc Gweithdrefnau Peter Greening, Llywodraeth Cymru Sarah Canning, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
Anfonodd y Dirprwy Lywydd ei ymddiheuriadau.
2. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
3. Trefn Busnes
3(i) Busnes yr wythnos hon
Hysbysodd Arweinydd y Tŷ y Pwyllgor y bydd y datganiad a ganlyn yn cael ei wneud ddydd Mawrth:
· Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Yr ymateb brys i’r llifogydd mawr yng nghanolbarth a gogledd Cymru (30 munud)
Bydd y Pwyllgor Busnes yn gwneud cynigion i newid aelodaeth Llafur ar bwyllgorau ddydd Mercher.
Ddydd Mawrth, cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Yn absenoldeb y Dirprwy Lywydd, nododd y Pwyllgor Busnes y bydd angen ethol Dirprwy Lywydd neu Gadeirydd dros dro ar gyfer dydd Mawrth a dydd Mercher.
3(ii) Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3(iii) Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu amser ar gyfer yr eitem o fusnes a ganlyn:
Dydd Mercher 20 Mehefin 2012
· Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau Preifat a Gwelliannau Amrywiol (5 munud)
Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad.
4. Rheolau Sefydlog
4(i) Gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chyfreithiau'r DU sy'n effeithio ar bwerau'r Cynulliad neu ar Weinidogion Cymru
Bu’r Pwyllor Busnes yn ystyried argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei adroddiad ar ei ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU. Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i’r argymhellion ynghylch gweithdrefnau’r Cynulliad.
Ynglŷn ag Argymhelliad 11, cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i edrych ar sut y gellid ymestyn y weithdrefn dros dro a gytunwyd arni ar gyfer ystyried Gorchmynion y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus i gynnwys is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion y DU sydd yn dod o fewn cymhwysesdd y Cynulliad neu y gallai effeithio ar gymhwysedd y Cynulliad, yn amodol ar gynnal adolygiad o’r weithdrefn dros dro.
4(ii) Biliau Preifat a Gwelliannau Amrywiol: Adroddiad drafft
Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried adroddiad drafft ar newidiadau i’r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â Biliau Preifat a Gwelliannau Amrywiol, a chymeradwyodd yr adroddiad. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog i’r Cynulliad ei ystyried ddydd Mercher 20 Mehefin 2012.
Busnes Arall
Ceisiadau am Amser y Cynulliad
Er mwyn sicrhau amser ar gyfer holl ddadleuon ar adroddiadau pwyllgorau tuag at ddiwedd y tymor, cytunodd y Rheolwyr Busnes, dros dro, i leihau’r amser ar gyfer holl ddadleuon ar adroddiadau pwyllgorau a dadleuon y gwrthbleidiau ddydd Mercher 11 Gorffennaf o 60 munud i 45 munud.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio
Hysbysodd Arweinydd y Tŷ y Rheolwyr Busnes y bydd papur ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i’w ystyried, yn amodol ar gliriad gan y Gweinidog, ddydd Mawrth 19 Mehefin.
Ailwampio sesiynau Cyfarfod Llawn dydd Mercher
Hysbysodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes o’i bwriad i ddychwelyd at y cynnig i ailwampio sesiynau Cyfarfod Llawn dydd Mercher yr wythnos nesaf.